Ymunwch â Super-Agers Pen-y-bont ar Ogwr

Super Agers and Healthy & Active Fund

Ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn?

Eisiau mynd allan o’r tŷ, dod yn egnïol a gwneud ffrindiau newydd i wella eich lles?

Mwynhewch gymdeithasu ag eraill, gwella’ch lles corfforol a meddyliol a chael effaith gadarnhaol ar eich cymuned leol. Ein nod yw cael chi’n symud ar stepen eich drws chi trwy helpu chi i drefnu gweithgareddau yn eich cymunedau gan gynnwys cerdded, dawnsio, cadw’n heini, Tai Chi … mae’r rhestr yn ddiddiwedd a byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Diolch i gais cyllido llwyddiannus i’r Gronfa Iach ac Egnïol, bydd gweithgareddau a mwy o gyfleoedd i chi fod yn egnïol am y tair blynedd nesaf!

Mae ein Gweithredwyr Cymunedol yn caru sgwrs dda ac maen nhw’n wrandawyr gwych hefyd! Trwy alwadau ffôn rheolaidd byddwn yn eich helpu i gynnig syniadau i ymgymryd â gweithgareddau iach i’ch cadw’n egnïol gartref a rhoi syniadau defnyddiol ar sut y gallwch chi gymryd rhan mewn sesiynau gweithredol yn eich cymuned leol.


Mae gweithgareddau Superagers Pen-y-bont ar Ogwr y gellir eu harchebu ymlaen yn cynnwys:

Ddydd llun:
1 – 2pm – Cyfarfod cerdded ym Maesteg
2.30 – 3.30pm – Tai Chi yng Nghanolfan Gymunedol Westward, Cefn Glas Pen-y-bont ar Ogwr

Ddydd mawrth:
10 – 11am – Tai Chi yn Eglwys Santes Fair Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr (sesiwn awyr agored / dan do – dibynnydd tywydd)

Dydd mercher:
10 – 11am – Ioga Mat Zoom
11am – 12pm – Zoom Tai Chi
11am – 12pm – Tai Chi yng Nghanolfan Gymunedol William Trigg, BlaengarwS
3 – 4pm – Tai Chi yng Nghanolfan Gymunedol Awel y Môr, Porthcawl

Ddydd iau:
10 – 11am – Tai Chi yng Nghcc Rygbi Maesteg

Ddydd gwener:
10.30 – 11.30am – Zoom Cadw’n Heini
Prynhawn: Tai Chi yng Nghwrt Bechgyn a Merched Nantymoel, Nantymoel (i’w gadarnhau)

Oherwydd canllawiau presennol Covid a chyfyngiadau ar bresenoldeb, mae’n ofynnol i gyfranogwyr archebu lleoedd ymlaen ymlaen i sicrhau y gellir eu lletya.

I gael rhagor o fanylion ac i archebu eich lle, cysylltwch ag Ady, T: 07789 371769 neu E: adrienne.hayhoe@bridgend.gov.uk


Hoffech chi wirfoddoli rhywfaint o’ch amser i gynnal rhai sesiynau?

Mae sesiynau superagers wedi’u hanelu at y grŵp oedran 50 a mwy, gan eich annog i gymryd rhan mewn sesiynau gweithgarwch corfforol tyner a chwrdd â phobl newydd. Dros 50 oed ac eisiau cadw’n heini? Hoffech chi wirfoddoli rhywfaint o’ch amser i gynnal rhai sesiynau? Ymunwch ag Superagers Pen-y-bont ar Ogwr!

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award