Ymgyrchoedd Iechyd

Cyfyngiadau cyfredol

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru adolygu cyfyngiadau Covid ddiwethaf ar 18 Mehefin pan wnaethon nhw oedi’r symudiad llawn i lefel rhybudd un am bedair wythnos. Bydd yr oedi hwn yn helpu i leihau’r nifer uchaf o achosion dyddiol o fynd i’r ysbyty hyd at hanner ac yn rhoi amser i fwy o bobl gael eu hail ddos o frechlyn.

Ar 25 Mehefin, cynhaliwyd yr adolygiad tair wythnos ffurfiol o’r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y data a’r dystiolaeth yn ofalus ac wedi cadarnhau y dylid cynnal y cyfyngiadau sydd ar waith tan o leiaf yr adolygiad rheoleiddio nesaf a gynhelir erbyn 15 Gorffennaf.

Rhaid ichi:

  • wisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) ym mhob lle cyhoeddus dan do;
  • peidio â ffurfio aelwyd estynedig gyda mwy na 2 aelwyd arall a pheidio â newid yr aelwydydd;
  • peidio â chwrdd o dan do yn eich cartref ag unrhyw un sydd ddim yn rhan o’ch aelwyd estynedig;
  • peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl eraill mewn lleoliadau a reoleiddir o dan do, fel caffis, tai bwyta a thafarndai (oni bai eich bod yn cwrdd â phobl rydych chi’n byw gyda nhw);
  • peidio â chwrdd â mwy na 29 o bobl eraill yn yr awyr agored gan gynnwys mewn gerddi preifat, mannau cyhoeddus, a mannau agored mewn lleoliadau a reoleiddir fel caffis, tai bwyta a thafarndai.

Dylech:

  • Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn rhan o’ch aelwyd estynedig chi;
  • Gweithio gartre os medrwch;
  • Cyfyngu i’r eithaf ar  deithio i ardal sydd â llawer o achosion.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.


    

Darganfyddwch fwy am frechlynnau yma

Mae’r bwrdd iechyd wedi sefydlu llinell gymorth bwrpasol i geisio cynorthwyo pobl gydag ymholiadau.
Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. T: 01685 726464.

Gallwch hefyd e-bostio: CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk
(yn cael ei fonitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4.30pm)



Mae ap COVID-19 y GIG yn ffordd bwysig o helpu i gadw Cymru yn ddiogel

Peidiwch ag anghofio lawrlwytho a defnyddio’r ap oherwydd po fwyaf o bobl sy’n gwneud hynny po fwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID. Gallwch ddarganfod sut i lawrlwytho’r app yma.





Curo’r Ffliw!

Mewn pobl iach, mae’r ffliw yn annymunol ond fel arfer yn hunangyfyngol, gydag adferiad mewn pump i saith diwrnod. Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn datblygu cymhlethdodau a phob blwyddyn mae pobl yn marw o ganlyniad i’r ffliw.

Gwelir salwch mwyaf difrifol mewn babanod ifanc iawn, menywod beichiog, pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd tymor hir.

Sicrhewch eich atebion i gwestiynau gofynnol yma

Oeddech chi’n gwybod bod y ffliw yn lledaenu’n hawdd a’r brechlyn ffliw yw’r ffordd orau i amddiffyn rhag dal a lledaenu ffliw?

Darllenwch fwy am y brechlyn ffliw


C#youarenotalone poster   Child Abuse poster  LiveFearFree poster



Sut alla i edrych ar ôl fy iechyd meddwl a lles?

Mae’r cyfnod rydyn ni’n byw drwyddo yn anodd i lawer. Gall gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles fod yn fwy heriol na’r arfer oherwydd pryderon gwaith neu ariannol a methu â gweld ffrindiau a theulu fel y byddech chi fel arfer.

Mae llawer o bobl wedi teimlo’n drist, dan straen, yn ddryslyd, yn ofnus neu’n ddig yn ystod y pandemig. Os oes gennych bryderon, ceisiwch siarad ag eraill yn hytrach nag ymdrin â hwy ar eich pen eich hun.

Ewch i llyw.cymru/iach-a-diogel/iechyd-meddwyl

Sut wyt ti? Sut bynnag wyt ti’n teimlo, mae cymorth ar gael 24/7.
Galw 0800 132737, neu tecstio ‘help’ i 81066


Gwneud Ymrwymiad sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr i dynnu sylw at rôl hanfodol gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau

Byddai Gofalwr-Gyfeillgar wrth eich bodd yn ymuno â’u hymgyrch! Gall unrhyw un ymrwymo; fel unigolyn neu ar ran eich gwasanaeth neu sefydliad.

Mae’n hawdd gwneud ymrwymiad:

  1. Ewch i www.carerfriendly.co.uk/commitment
  2. Gwyliwch fideo byr am ofalwyr di-dâl
  3. Cyflwyno’ch ymrwymiad

They’ve included helpful suggestions and you can easily view the commitments that other services have made for inspiration. Maent wedi cynnwys awgrymiadau defnyddiol a gallwch weld yn hawdd yr ymrwymiadau y mae gwasanaethau eraill wedi’u gwneud i ysbrydoli. Pan fyddant yn derbyn eich ymrwymiad, byddant yn anfon ystod o adnoddau atoch i’ch helpu i wneud gwahaniaeth i ofalwyr yn eich cymuned.


Newyddion iechyd diweddaraf

Dal i fyny gyda’n newyddion iechyd diweddaraf trwy ymweld â’n tudalen newyddion yma


Cysylltwch â ni

Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award