Ymgynghoriadau

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud ar wasanaethau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n effeithio arnoch chi a’ch sefydliad.


 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y dibenion gwario yn y dyfodol ar gyfer cyllid asedau segur yng Nghymru. Mae’n cynnig pedwar opsiwn posibl i’w hystyried:

  • plant a phobl ifanc,
  • argyfyngau hinsawdd a natur,
  • cynhwysiant ariannol a
  • Gweithredu cymunedol.

Mae’n annhebygol y bydd yn gallu ariannu’r pedwar opsiwn a bydd angen blaenoriaethu.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi cefndir y Cynllun Cyfrifon Segur presennol, yn rhoi rhywfaint o gyd-destun i bob un o’r pedwar diben posibl ac yn cynnig cyfle i ymatebwyr ddarparu awgrymiadau amgen.

Ewch i’r wefan a llenwch y ffurflen ar-lein yma Cynllun Asedau Segur yng Nghymru.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award