Cynhadledd Cyfraith a Llywodraethu Trydydd Sector De Cymru – ARCHEBWCH NAWR!

Ar-lein yn ystod Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr, 1af – 4ydd Tachwedd 2021

Yn dilyn seibiant y llynedd oherwydd y pandemig, mae Cynhadledd Cyfraith a Llywodraethiant Trydydd Sector De Cymru yn ôl!

Yn cael ei gynnal ar-lein gyda phum sesiwn dros bedwar diwrnod, mae’r digwyddiad am ddim yn cynnwys: GDPR, Cynaliadwyedd, Seiberddiogelwch a Gweithio Hybrid; ac yn cynnig amser i rwydweithio â mynychwyr a gofyn cwestiynau i’r siaradwyr arbenigol.

Mae BAVO, ynghyd â NPTCVS, CAVS a SCVS yn falch iawn o weithio eto gyda Bevan a Buckland LLP a Chyfreithwyr JCP i ddod â chi yn bumed Gynhadledd Flynyddol Cyfraith a Llywodraethu Trydydd Sector De Cymru.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r llyfryn, sy’n cynnwys manylion ac amseriadau sesiynau

*Bydd y 50 cyntaf i gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim hwn ar neu cyn 24 Hydref 2021 yn derbyn bocs brecwast i roi hwb i’r wythnos!

Mae’r sesiynau’n addas ar gyfer Ymddiriedolwyr, Prif Swyddog Gweithredol, gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr yn y sector gwirfoddol a chymunedol, a byddant yn adeiladu eich gwybodaeth i helpu eich sefydliad i fod yn fwy gwydn ac yn gallu ymdopi yn y dirwedd newidiol hon.

I archebu, cliciwch i gofrestru drwy Eventbrite

Mae’r archebion yn cau dydd Gwener 29 Hydref 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lewis Turner ar 01792 410100 neu e-bostiwch lewis.turner@bevanbuckland.co.uk.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award