Effaith ac adroddiadau

Adroddiadau Effaith

Wrth i ni ddathlu gwneud gwahaniaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn haeddiannol falch o gyflawniadau’r sefydliad – roedd rhaid i ni ystwytho, newid a bod yn ymatebol gyda’r amseroedd newidiol ac rydym wedi dod yn bell ers y dyddiau cynnar! Mae BAVO a’r Trydydd Sector bellach yn bartneriaid strategol allweddol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn y rhanbarth.

Y canlyniadau rydyn ni’n anelu i’w cyflawni yw:

Sefydliadau trydydd sector cryfach
Trwy ddarparu cymorth, cyngor a hyfforddiant a chyfleoedd dysgu, datblygu sgiliau a meithrin capasiti.

Trydydd sector bywiog a dylanwadol
Trwy sicrhau bod y sector yn dylanwadu ar strategaeth, polisi a ffyrdd o weithio. Gwneud y sector yn rhan annatod o gyd-gynhyrchu ac atebion i faterion lleol.

Trydydd sector cynaliadwy
Trwy ddenu buddsoddiad, broceru partneriaethau, cydlynu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, hyrwyddo cyfleoedd ariannu a gweinyddu grantiau.

Cymunedau gweithredol ac amrywiol
Trwy gefnogi a hyrwyddo gwirfoddoli a dinasyddiaeth weithgar, cyfle cyfartal ac amrywiaeth.

Llais i ddinasyddion a chymunedau
Trwy ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, pobl â phrofiad bywyd, cymunedau a dinasyddion, i alluogi eu llais i fod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau lleol sy’n effeithio arnyn nhw a’u bywydau.

Cover of Annual Report____


Adroddiadau Effaith Blynyddol Blaenorol:

Adroddiad Effaith Blynyddol 2022-23

Adroddiad Effaith Blynyddol 2021-22

Adroddiad Effaith Blynyddol 2020-21

Adroddiad Effaith Blynyddol 2019-20

Adroddiad Effaith Blynyddol 2018 – 19

Adroddiad Effaith Blynyddol 2017-18

Adroddiad Effaith Blynyddol 2016-17

 


Rydym wedi gweithio’n galed i leoli ein hunain fel cyfranwyr i lawer o feysydd datblygu, ymgyrchoedd, mentrau arloesol ac ymchwil. Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau cyfranogiad ac ymgysylltiad y sector fel bod cyfle i aelodau a’u defnyddwyr gwasanaeth ddylanwadu a chyd-gynhyrchu newid a hefyd i gael eu cydnabod fel partneriaid a darparwyr gwasanaeth gwerthfawr a chredadwy.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award