Pam gwirfoddoli

Gwnewch wahaniaeth i’ch bywyd CHI ac i ERAILL!

Gall gwirfoddoli fod yn gyffrous, yn heriol ac yn wobrwyol. Mae o fudd i chi a’r unigolion neu’r grŵp rydych chi’n ei helpu. Mae grwpiau’n dibynnu ar wirfoddolwyr, felly gallwch chi wneud gwahaniaeth MAWR i’ch cymuned!

Ydych chi’n mwynhau cwrdd â phobl?

Ydych chi’n chwilio am gyfeiriad newydd?

Ydych chi wedi meddwl am wirfoddoli?

Ewch i’n porth Gwirfoddoli Cymru i edrych ar y cyfleoedd gwirfoddoli lleol diweddaraf


Gwirfoddoli…

  • yn gwella’ch hunanhyder, eich lles a’ch hunan-barch;
  • yn eich helpu i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd;
  • yn eich helpu i ddod yn aelod gweithgar o’ch cymuned;
  • yn gallu cyflwyno chi i heriau newydd a dysgu chi sgiliau newydd;
  • gwerthfawrogi chi a defnyddio’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd presennol;
  • gall eich arwain at lwybr gyrfa newydd a gwella’ch CV os ydych chi’n chwilio am swydd.

“Mae gwirfoddoli yn gwneud i mi deimlo bod fy angen, rhoi pwrpas i mi a gwneud i mi deimlo’n rhan o dîm.”

Cyfleoedd yn gynnwys:

  • Cyfeillio / mentora;
  • Cefnogi pobl ifanc neu hŷn;
  • Manwerthu mewn siop elusen;
  • Cefnogi pobl ag anghenion arbennig;
  • Gyrru;
  • Prosiectau cefnogi cyffuriau ac alcohol;
  • Amgylcheddol a chadwraeth;
  • Rolau ymddiriedolwyr a llawer mwy!

Ffeithiau gwirfoddoli

  • Gwirfoddolodd 30% o bobl yn ffurfiol (h.y. gyda grŵp, clwb neu sefydliad) o leiaf unwaith yn 2022/23.

Am fwy o ystadegau, darllenwch fwy yma


Cysylltwch â ni

Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: volunteering@bavo.org.uk


E-fwletinau gwirfoddoli

Mae ein Tîm Gwirfoddolwyr yn helpu sefydliadau lleol i fod y gorau y gallant fod trwy roi arweiniad arfer gorau ar recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, goruchwylio, hyfforddi, ymgysylltu a chadw. Mae ein e-fwletinau gwirfoddoli rheolaidd yn llawn o’r cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf ac maent hefyd yn rhoi cipolwg ar gyfleoedd i unigolion.

Darllenwch ein e-fwletin gwirfoddoli diweddaraf yma …

E-fwletin gwirfoddoli BAVO – 22 Chwefror 2021


Y newyddion gwirfoddoli diweddaraf

Dal i fyny gyda’n newyddion gwirfoddoli diweddaraf trwy ymweld â’n tudalen newyddion yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award