Hafan » Gwirfoddoli » Gwobrau Gwirfoddolwyr » Nodiadau canllaw Gwobrau Gwirfoddolwyr
Nodiadau canllaw Gwobrau Gwirfoddolwyr
Gwybodaeth enwebu, rheolau a phwrpas gwobrau
Bob blwyddyn mae miloedd o unigolion a grwpiau yn gwirfoddoli ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi eu hamser, eu hegni, eu sgiliau a’u hymrwymiad i helpu eraill yn eu cymuned.
Nod Gwobrau Arwyr Di-glod Pen-y-bont ar Ogwr 2024 yw cydnabod ac anrhydeddu pobl a sefydliadau eithriadol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymuned.
Dyma’r seithfed flwyddyn i ni gynnal y gwobrau a hoffem annog pobl i enwebu unigolion a/neu grwpiau sydd, yn eu barn nhw, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r gymuned.
Mae’r broses o enwebu yn gyflym a syml, a bydd pob enwebai yn derbyn tystysgrif ffurfiol.
Y gwobrau yw:
- Gwirfoddolwr Ifanc
- Oedolyn yn Gwirfoddoli
- Grŵp Cymuned/Elusen
- Gwirfoddolwr Chwaraeon
- Gwirfoddolwr Rhagorol
- Ymddiriedolwr
- Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb
Y drefn enwebu
- Ni ellir enwebu unigolion ganddyn nhw eu hunain, partner, aelod o’r teulu neu unrhyw weithiwr o BAVO. Dylai’r sawl sy’n enwebu fod wedi adnabod yr enwebai am o leiaf chwe mis;
- Rhaid i’r enwebeion fod wedi gwirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y 12 mis diwethaf;
- Mae categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn o dan 25 ar gyfer y rhai o dan 25 oed ar 31 Rhagfyr 2024;
- Rhaid i sefydliadau fod wedi’u lleoli neu’n gweithio o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
- Nid yw gweithwyr cyflogedig yn gymwys ar gyfer y gwobrau.
Rheolau ar gyfer pob categori:
Gall manylion personol a ddarperir ar bob ffurflen enwebu gael eu trosglwyddo i sefydliadau partner ac i’r cyfryngau at ddibenion cyhoeddusrwydd. Os nad ydych yn barod i unrhyw wybodaeth gael ei rhannu fel hyn, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
- Er y bydd pob enwebai yn cael ei gydnabod, dim ond yr enwebai â’r sgôr uchaf fydd yn cael ei ddewis ar gyfer gwobr ar gyfer pob categori.
- Sicrhewch fod yr wybodaeth a ddarperir yn berthnasol ac yn unigryw i’r enwebai. Ni ddylai’r wybodaeth gael ei hefelychu na’i dyblygu ar gyfer enwebai arall.
- Bydd panel dewis yn dewis enillwyr y gwobrau.
- Mae penderfyniadau’r panel yn derfynol. Mae’r panel yn cadw’r hawl i beidio â gwneud gwobr mewn unrhyw gategori penodol os ydyn nhw’n teimlo nad yw’r enwebiadau’n addas. Ni fydd unrhyw adborth yn cael ei roi am benderfyniadau na thrafodaethau’r panel.
Dyddiad cau enwebiadau:
Rhaid derbyn enwebiadau wedi eu cwblhau erbyn hanner dydd, Dydd Iau, 11eg Ebrill 2024 gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu swyddogol. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir wedi’r dyddiad cau yn cael eu hystyried.
Rhaid nodi’r enwebiadau post yn ‘Breifat a chyfrinachol’ a dylid eu dychwelyd i Sharon Headon, BAVO – 112/113 Commercial Street, Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, CF34 9DL.