Cofrestru gyda infoengine

Cofrestrwch gyda infoengine i hyrwyddo eich gwasanaethau

Ydych chi wedi cofrestru ar infoengine, cyfeiriadur ar-lein Cymru o wasanaethau’r Trydydd Sector?

Mae infoengine yn gyfeiriadur ar-lein o wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru. Os ydych chi’n fudiad neu grŵp gwirfoddol, drwy gofrestru eich sefydliad bydd gennych restr am ddim yn eu cyfeiriadur cynhwysfawr; gallu hyrwyddo eich gwasanaethau i gynulleidfa eang a denu pobl yn eich cymuned a thu hwnt!

Cofrestrwch eich sefydliad yn infoengine.wales

Fe’i darperir a’i gefnogi gan Cefnogi’r Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol gan gynnwys BAVO a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Mae ganddo dros 4,000 o wasanaethau a gynigir gan fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Mae’r nifer hwn yn cynyddu’n ddyddiol. Mae InfoEngine yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol sy’n gallu darparu gwybodaeth a chefnogaeth fel y gall pobl wneud dewis gwybodus. Gallwch gofrestru eich sefydliad yn rhad ac am ddim ac yna ychwanegu’r gwasanaethau unigol rydych chi’n eu cynnig. Gallwch hefyd uwchlwytho’ch lluniau, logo a thaflenni, yn ogystal â chysylltu â’ch gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw cofrestru yn cymryd mwy na 10 munud a gall wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun.

Ymunwch â miloedd o bobl eraill a chofrestru heddiw mewn tri cham syml…

Cymerwch olwg ar ganllaw ‘Sut i’ infoengine yma

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch olygu’ch cofnodion fel a phryd y bydd angen i chi gadw’ch gwybodaeth yn gyfredol.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award