Mae BAVO yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel rydych chi’n eisiau, lle rydych chi ei eisiau ac yn aml AM DDIM. Gallwn deilwra ein hyfforddiant i ddiwallu anghenion eich sefydliad (mawr neu fach), gan gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch staff. Rydym hefyd yn cynnig dysgu anffurfiol drwy gymorth datblygu ar gyfer grwpiau newydd a bach ac ar gyfer sefydliadau mwy sy’n wynebu newid neu her.
Mae’r hyfforddiant canlynol yn digwydd yn bersonol yn swyddfa BAVO ym Maesteg.
Ionawr 2024
30 | Cymorth Cyntaf Brys | 09:30 – 16:00 LLAWN – Rhestr aros ar gael
24 | Diogelu Sylfaenol | 13:00 – 15:00 – Cofrestrwch ar gyfer 24 Ionawr
Chwefror 2024
8 | Diogelu Sylfaenol | 14:00 – 16:00 – Cofrestrwch ar gyfer 8 Chwefror
8 | Ymwybyddiaeth Ffiniau Proffesiynol | 10:00 – 11:30
21 | Diogelu Sylfaenol | 13:00 – 15:00 – Cofrestrwch ar gyfer 21 Chwefror
Archebwch nawr
Cliciwch ar y dolenni uchod i archebu ar-lein neu i roi gwybod i ni os ydych chi’n eisiau lle, e-bostiwch alisonmawby@bavo.org.uk neu ffoniwch 01656 810400
Sylwer: Archebion ar agor i’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn unig. Mae lleoedd AM DDIM ond os nad ydych chi’n gallu mynychu a heb canslo eich lle fwy na 48 awr cyn, bydd ffi canslo o £10 I chi talu. Os nad ydyc chi’n gallu fod yn bresennol eich hun, rydym yn hapus i chi anfon rhywun arall o’ch sefydliad.
Bellach gall BAVO ddarparu hyfforddiant ar alw yn yr holl bynciau hyn
 diddordeb? Rhowch wybod i ni a chyn gynted ag y bydd gennym chwech neu fwy o enwau, gallwn drefnu’r lleoliad, yr amser a’r dyddiad o amgylch eich anghenion.
Oes gan eich grŵp anghenion hyfforddi penodol?
A fyddai eich sefydliad yn elwa o ddadansoddiad o anghenion hyfforddi?
A hoffech roi arweiniad neu ddogfennau llywodraethu cyfredol i Ymddiriedolwyr, statws elusennol neu gwmni neu rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Darparu mynediad hawdd i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru at ystod o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein. Mae’r Ganolfan Wybodaeth, a ddarperir gan Gymorth Trydydd Sector Cymru yn offeryn hawdd ei ddefnyddio i helpu mudiadau gwirfoddol i wella sgiliau, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am feysydd allweddol fel rhedeg eich sefydliad, gwirfoddoli, cyllid a dylanwadu.
Yn ogystal â detholiad o daflenni gwybodaeth a chyrsiau ar-lein, mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gyda chyfoedion a chael trafodaethau ar bynciau sy’n bwysig i chi. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, neu i’r rhai sydd am gymryd rhan yn y trydydd sector am y tro cyntaf.
Er mwyn manteisio ar yr Hwb Gwybodaeth newydd, cofrestrwch yn cefnogi’r trydydd sector.cymru: thirdsectorsupport.wales/cy/