Tîm BAVO sy’n rheoli cronfa rhaglen ‘Driving Change’ Buddsoddi Lleol Caerau
Ymhlith y blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen gymunedol hon mae cryfhau cyfleusterau a sefydliadau lleol, gwella iechyd a lles, cryfhau ysbryd a balchder cymunedol a gwella’r amgylchedd naturiol.
Os yw’ch grŵp wedi’i leoli yng Nghaerau a/neu os oes angen cymorth neu gyngor ariannol arnoch i ddatblygu eich grŵp, prosiect neu syniad yng Nghaerau, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Cymunedau Adeiladu i gael rhagor o wybodaeth.