Gwydnwch cymunedol

CTM RPB Logo

Gwneud gwahaniaeth i gymuned chi

Wedi’i ariannu gan y Gronfa Drawsnewid, mae ein Swyddog Gwydnwch Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod yr hyn maen nhw’n teimlo bydd yn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w hardal leol trwy eu cefnogi i ddatblygu mentrau a gweithgareddau newydd.


Community Resilience

Cyn bod dan gyfyngiadau gwnaethom helpu nifer o unigolion i sefydlu amryw o grwpiau ledled bwrdeistref y sir wnaeth dod gyda’i gilydd i frwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd pobl hŷn gan gynnwys grŵp cyfeillgarwch ‘Chatter and Natter’ yn Kenfig Hill a chriw cinio dydd Sul yng Nghefn Glas.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau a fyddai’n gwella lle rydych chi’n byw ac angen cefnogaeth i’w roi ar waith, cysylltwch â ni!


Cysylltwch â ni

Gallwn eich cefnogi chi i gael mynediad i hyfforddiant perthnasol, cyllid, cysylltu â grwpiau cymunedol eraill, cynorthwyo i ddarganfod cryfderau ac asedau’r gymuned a helpu i ddatblygu digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned.

Os ydych chi am chwarae fwy o ran weithredol yn eich cymuned a bod yn llysgennad cymunedol, cysylltwch â Tracy yn BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award