Os ydych yn gofalu am rywun, mwynhewch rai sesiynau ‘Me Time‘!

Mae ‘Me Time’ yn gyfle i ofalwyr di-dâl wneud rhywbeth er eu mwynhad eu hunain. Mae’r sesiynau ar-lein hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn lle y gall gofalwyr gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau ac archwilio cyfleoedd newydd na fyddent o bosibl yn gallu eu gwneud fel rheol.

Mae’r rhaglen Me Time wedi’i sefydlu o ganlyniad i ofalwyr yn rhannu pryderon am eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.

Gallwch chi wneud pob math o bethau yn amrywio o edrychiadau grŵp o ryfeddodau mawr y byd, i’r celfyddydau, cerddoriaeth, ymarfer corff, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar a chymaint mwy.

Mae’r sesiynau’n rhedeg tan fis Mawrth 2021, gydag o leiaf dwy sesiwn bob wythnos, ar wahanol adegau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar eu gwefan.

Gallwch hefyd fynd i sesiynau Gofal am Cuppa wythnosol, lle mae gofalwyr di-dâl yn cael eu gwahodd i ymuno â ni am sgwrs gyda gofalwyr eraill ac i glywed gan sefydliadau ledled Cymru am y ffyrdd maen nhw’n cefnogi gofalwyr a’u hanwyliaid.

Gallwch ddarganfod mwy yma.

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award