Mae’r canllaw hwn ar gyfer canolfannau cymunedol yng Nghymru i roi trosolwg byr i chi o sut i baratoi ar gyfer ailgychwyn eich gwasanaethau. Ar adeg ysgrifennu’r canllaw diwygiedig hwn mae Cymru yn raddol trosglwyddo trwy lefelau rhybuddio. Gweler y Cynllun Rheoli Coronafirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y gwahanol lefelau rhybuddio.
Gallwch lawrlwytho canllawiau CGGC ar gyfer canolfannau cymunedol sy’n ailagor yng Nghymru yma
Gall canolfannau cymunedol agor a bwriad y canllaw diweddaraf hwn yw amlinellu newidiadau i’r rheoliadau a darparu ffyrdd ymarferol i chi agor eich canolfan gymunedol.
Mae’r canllaw hwn ar gyfer y rhai sy’n rheoli canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol eraill, ar ailagor adeiladau amlbwrpas yn ddiogel. Fodd bynnag, bydd hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n llogi neu’n defnyddio canolfan gymunedol. Gallwch chi lawrlwytho’r canllawiau yma