Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli sy’n cael eu harwain a’u cynnal gan bobl ifanc.
Nod yr arian yw helpu pobl ifanc i wirfoddoli rhwng 14 a 25 oed i gymryd mwy o ran mewn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn eu cymuned leol.
Mae Grŵp Cyllido Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys grŵp o bobl ifanc 14 – 25 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cefnogir y panel gan BAVO.
Rhagor o wybodaeth cysylltwch â BAVO F: 01656 810400 neu E: volunteering@bavo.org.uk
Ar agor unwaith y flwyddyn. Dyddiadau ar gyfer 2024 i’w cadarnhau.
Mae mwy am Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid ar wefan CCCG