Ymgynghoriad Asesiad Llesiant PSB

Cyhoeddwyd: 21 Chwefror 2022

Dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnal asesiad llesiant i ddeall beth sydd fwyaf pwysig, o ran llesiant, ar gyfer pobl a chymunedau.

Yr Asesiad Llesiant yw’r sail dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Llesiant, a bydd yn cael ei ddefnyddio i nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Disgwylir i’r Cynllun Llesiant gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2023.

Mae llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a sut mae hynny’n cysylltu â’r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni a’r diwylliant rydym yn ei rannu.

Mae dros 450,000 o bobl yn byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Mae sawl peth wedi llywio ein cymunedau a’n llesiant, fel treftadaeth ddiwydiannol, y dirwedd a diddordebau a rennir o ran chwaraeon a’r celfyddydau, gan gynnig hanes cyfoethog a dyfodol llawn cyfleoedd. Gellir ystyried y rhain fel ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae’r ffurflen ymateb ar gael yma.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award