Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig a glustnodwyd i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth y maent yn ei gynnig i’w cymunedau lleol, gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gefnogi sefydliadau a helpu pobl.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cael ei dathlu rhwng 1af a 7fed Mehefin bob blwyddyn. Mae’n wythnos lle mae’r DU yn dathlu gwirfoddolwyr ac yn dweud diolch iddynt am y cyfraniad a wnânt. Mae’r wythnos hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn wirfoddolwr a’r rolau gwirfoddoli amrywiol sydd ar gael.
Yn ogystal â helpu eraill, dangoswyd bod gwirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai sy’n gwirfoddoli, gan gynorthwyo gwirfoddolwyr i ennill sgiliau newydd a hybu hunan-barch. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu eraill.
Eleni mae BAVO yn gofyn i sefydliadau anfon clipiau fideo o’u sefydliad – isod ceir rhai awgrymiadau;
Yna gallwn dynnu sylw at y fideos ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel bod pobl yn fwy ymwybodol o faint mae gwirfoddolwyr a sefydliadau yn ei wneud i gefnogi unigolion a chymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Dim ond tua 30 eiliad o hyd fydd angen i’r clipiau fideo fod a gellir eu gwneud ar eich ffôn drwy Whatsapp. Yna gallwn gynnal y fideos drwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddai angen i chi anfon y fideos i BAVO erbyn 15 Mai.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau eraill, rhowch wybod i mi a byddwn yn ceisio eu hychwanegu at y rhestr.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol ac mae gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr mewn cymaint o ffyrdd, felly gadewch i ni ddathlu a chydnabod y cyflawniadau hynny.