Rownd Grantiau Dementia yn agor ar gyfer grwpiau gwirfoddol Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2024
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Cynllun Grant y Trydydd Sector (Gofal Dementia): Grantiau Refeniw

Dyddiad cau – 5pm, Dydd Iau 28ain Mawrth 2024

Cefnogir gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

Mae grantiau o hyd at £150,000 y flwyddyn am gyfnod dosbarthu o 2 flynedd
ar gael ar gyfer prosiectau dan arweiniad grwpiau/sefydliadau gwirfoddol
a chymunedol sydd wedi’u lleoli ac yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr,
Merthyr Tudful neu Rhondda Cynon Taf.

Diben:

  • Brwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd pobl sy’n byw gyda
    dementia, eu teulu a’u gofalwyr
  • Atal mynediad diangen at wasanaethau statudol/rhyddhau cymorth
  • Cefnogi grwpiau buddiolwyr i gynnal eu hiechyd, lles ac annibyniaeth
  • Helpu sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i feithrin capasiti

Ar gyfer pwy?

Bydd angen i brosiectau gefnogi un neu fwy o’r grwpiau buddiolwyr canlynol:

  • Pobl sy’n byw gyda Dementia
  • Gofalwyr/Teuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia

Sut?

Ffurflen gais a chanllawiau ar gael are vamt.net/en/services/funding/

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:

Laura Dadic – BAVO: 01656 810400 lauradadic@bavo.org.uk

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award