Recriwtio cyfarwyddwyr anweithredol i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 19 Tachwedd 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi dwy rôl Cyfarwyddwr Anweithredol newydd, i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol)
  • Cyfarwyddwr Anweithredol (Trydydd Sector)

A chithau’n gyfarwyddwr anweithredol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a’ch profiad i wneud cyfraniad at ein gweledigaeth Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth. Ein nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi’r gwaith o ddatblygu iechyd ledled Cymru.

Mae ein Strategaeth Hirdymor, a gyhoeddwyd gennym yn 2018, yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein nod o sicrhau dyfodol iachach i Gymru. Mae’n nodi ein saith blaenoriaeth strategol i ddangos ein meysydd ffocws allweddol.

Ers 2018 mae ffactorau allanol gan gynnwys y pandemig wedi effeithio ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru, sy’n golygu bod angen i ni asesu ein strategaeth bresennol i sicrhau ei bod yn iawn o hyd neu nodi unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous, wrth i ni fynd ati i ailwerthuso ac yna gweithredu ein strategaeth hirdymor newydd a gwell.

Ceir manylion am y rolau isod a gellir hefyd eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award