Prosiect Lincio Lan gweithdy ar-lein: Rolau a chyfrifoldebau aelodau’r pwyllgor (ymddiriedolwyr)

Dydd Iau 24 Mehefin 2021 rhwng 10am a hanner dydd (ar-lein trwy Zoom)
Cost: yn rhad ac am ddim
Dyddiad cau archebu: 5pm, 17 Mehefin 2021

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, nod ein Prosiect Lincio Lan yw cryfhau llywodraethu gwirfoddol a datblygu sgiliau gwirfoddol, trwy helpu ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd / pwyllgor i ddod yn fwy hyderus yn eu rolau.

Os ydych chi’n aelod o bwyllgor o gymuned, elusennol neu fudiad gwirfoddol mae gennych rwymedigaethau a chyfrifoldebau cyfreithiol nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt.

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer aelodau pwyllgor / ymddiriedolwyr / Cyfarwyddwyr grwpiau a sefydliadau gwirfoddol, cymunedol ac elusennol.

Mae angen i ni i gyd ddiweddaru, datblygu ac adnewyddu ein gwybodaeth a’n hymwybyddiaeth dros amser i:

  • rhedeg eich sefydliad yn hyderus ac yn effeithlon;
  • deall a lliniaru’ch rhwymedigaethau cyfreithiol fel aelod o’r pwyllgor (a elwir yn ymddiriedolwr yn gyfreithiol); a
  • cwrdd â’ch cyfrifoldebau.

Waeth pa mor brofiadol ydych chi fel ymddiriedolwr, neu pa mor hir rydych chi wedi bod yn aelod o’ch pwyllgor, mae angen i chi gadw llygad ar lawer o ddatblygiadau newydd ym myd llywodraethu elusennau yng Nghymru.

Erbyn diwedd y gweithdy byr a rhyngweithiol hwn byddwch yn deall:

  • pa rolau a chyfrifoldebau sydd gennych;
  • sut i gyfyngu ar risgiau posibl;
  • egwyddorion llywodraethu da;
  • rolau swyddogion penodol.

Sesiwn AR-LEIN yw hon trwy Zoom (gallwn eich helpu i gyrchu a gosod Zoom IN ADVANCE o’r digwyddiad os oes angen cefnogaeth arnoch i wneud hynny).


Archebwch nawr

Cofrestrwch am eich lle am ddim yma.

Anfonir eich dolen i’r sesiwn Zoom atoch cyn 21 Mehefin.


Cysylltwch â ni

Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award