Diogelu Sylfaenol

Diogelu Sylfaenol – Sut i wneud hynny, beth i chwilio amdano, beth i’w wneud.

Dyddiadau
24 Ionawr

neu

21 Chwefror

1pm – 3pm yn bersonol yn swyddfa BAVO ym Maesteg

Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob sefydliad trydydd sector, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Mae diogelu yn rhan werthfawr o fframwaith llywodraethu sefydliad. Mae’n ymwneud ag iechyd a diogelwch; recriwtio, datblygu a chadw staff; sicrhau ansawdd a chyllid.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gwirfoddolwyr a staff yn y sector gwirfoddol (trydydd). Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelu yn gyffredinol a datblygu dealltwriaeth a hyder cyfranogwyr o:

  • eu rôl eu hunain mewn perthynas â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rhag cam-drin ac esgeuluso niwed;
  • sut i adnabod gwahanol fathau o niwed, cam-drin ac esgeulustod;
  • sut mae unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin ac esgeuluso niwed.

Archebwch nawr

 

 


Cysylltwch â ni

Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award