Mae Bridgend Carers Centre yn cynnal sesiwn dal i fyny ‘Gofalwyr’ trwy Zoom bob dydd Mercher am 2pm.
Ydych chi’n ofalwr? Hoffech chi gysylltu â gofalwyr eraill yn eich ardal chi? Galwch heibio i’w sesiwn Zoom i ddod at ei gilydd, cefnogi’ch gilydd, gwneud ffrindiau newydd a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun!
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.
Am fanylion pellach cysylltwch â Rhiannon yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 01656 658 479/0787 687 2235 neu e-bostiwch: rhiannon.frances@bridgendcarers.co.uk