Mae BAVO yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod.

Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae BAVO yn codi ymwybyddiaeth o’r angen i roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn wedi’i farcio ledled y byd yw’r fenter fyd-eang fwyaf i roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth.

Ar Ddydd Iau 25 Tachwedd, a’r 16 diwrnod i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod sy’n dilyn, rydym yn gofyn i bobl yn eu cymunedau, sefydliadau a gweithleoedd, ddod at ei gilydd, a dweud ‘na’ i drais yn erbyn menywod.

Oherwydd miloedd o bobl fel chi, gallwn gyfleu’r neges bod yn rhaid i drais dynion yn erbyn menywod a merched ddod i ben. Ac y gall pob dyn wneud gwahaniaeth. #AllMenCan yw ein prif neges eleni. Fe’i datblygwyd i ni ym mis Mawrth pan ddaeth llofruddiaeth Sarah Everard â phrofiad menywod o drais dynion i flaen meddyliau pawb. Agorodd hefyd gymaint o sgyrsiau am ddynion yn gweithredu ac yn gwneud safiad. Wrth i ni symud tua diwedd y flwyddyn, rydym am i gynifer o ddynion â phosibl feddwl yn ofalus a gwneud Addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais gwrywaidd yn erbyn menywod.

Gwahoddir pobl i wisgo Rhuban Gwyn a gwneud Addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais gwrywaidd yn erbyn menywod.

Rhai syniadau cychwynnol:

  • Faint o bobl allwch chi eu cael i wisgo rhuban gwyn – Pawb yn eich gweithle? Eich ffrindiau i gyd?
  • Byddwch yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol dilynwch ni a lledaenwch y gair gan ddefnyddio #WhiteRibbon #AllMenCan #MakeThePromise
  • Dysgwch am ddod yn sefydliad achrededig neu gefnogwr Rhuban Gwyn
  • Lawrlwytho – Cyfrannwch -Arddangos Poster Addewid y Rhuban Gwyn yn Gymraeg a Saesneg

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Rhuban Gwyn.

Dilynwch White Ribbon UK ar Trydar: @WhiteRibbon_UK.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award