
Dyddiad: Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2025
Amser: 1:30yp – 3:30yp
Lleoliad: Gwesty Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr
Ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol BAVO, lle byddwn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, yn dathlu ein llwyddiannau, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.
Rydym yn falch iawn o wahodd ein sefydliadau aelodau i brynhawn o gysylltu, sgwrsio a chymuned — gan gynnwys te prynhawn a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i:
Gwrdd a rhwydweithio gydag aelodau eraill
Rhannu syniadau a gwneud eich llais yn cael ei glywed
Gymryd rhan yn etholiad Aelodau’r Bwrdd
Yn ystod yr AGM, bydd Ymddiriedolwyr BAVO yn cyflwyno Adroddiad Effaith Blynyddol 2024/25, gan gynnwys uchafbwyntiau perfformiad a datganiadau ariannol. Bydd yr archwilydd annibynnol hefyd yn cyflwyno ei adroddiad.
Mae ein Cyfarfod Blynyddol ar agor i bob sefydliad yn y trydydd sector. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sydd yn aelodau.
Cadwch eich lle ar-lein neu e-bostiwch bavo@bavo.org.uk
(Sylwer: Codir tâl o £20 y pen os byddwch yn archebu ond heb fynychu heb roi o leiaf 48 awr o rybudd ymlaen llaw.)
Efallai y gofynnir i aelodau sydd â hawliau pleidleisio bleidleisio ar faterion cyfredol, gan gynnwys:
Penodiadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr (lle mae mwy o enwebiadau nag o leoedd ar gael)
Ailbenodi’r archwilwyr
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r digwyddiad pwysig a phleserus hwn.
Hoffech chi enwebu rhywun i fod ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr BAVO? Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth ac i enwebu’r unigolyn.
Sylwer: Rhaid i’r unigolyn fod yn rhan o sefydliad sydd yn aelod o BAVO.




