Cyfarfod Rhwydwaith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Alcohol Cyffuriau

Mae BAVO yn cynnal Cyfarfod Rhwydwaith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Alcohol Cyffuriau (DAMHSN) ar Dydd Iau 25 Ionawr. Bydd hyn ar-lein trwy Microsoft Teams 10 y bore – 12 canol dydd.

Os ydych chi’n unigolyn neu’n grŵp sydd â’r nod o hybu iechyd meddwl neu ddarparu gwasanaeth i bobl sydd â phroblem iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fe’ch gwahoddir i gysylltu â DAMHSN.

Ynglŷn â DAMHSN

Mae DAMHSN yn dod â sefydliadau lleol a chenedlaethol ynghyd sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl a lles meddyliol ym Mhen-y-bont ar Ogwr; a staff a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â chefnogi pobl a/neu weithio i fynd i’r afael â materion camddefnyddio sylweddau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r rhwydwaith yn creu cyfleoedd i drafod materion cyfredol, prosiectau posibl ar y cyd, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwasanaeth ac osgoi dyblygu gwaith. Mae hefyd yn gyfle i’r sector gwirfoddol ehangach, sy’n darparu gwasanaethau i bobl a allai fod â phroblemau iechyd meddwl hefyd, gysylltu, rhannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth.

Am fanylion y cyfarfod cysylltwch â Laura Dadic drwy e-bost lauradadic@bavo.org.uk neu ffoniwch 07850 700 377.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award