Dementia Friendly Golf Session Available!

Cyhoeddwyd: 1 Gorffennaf 2026

Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia ac yn chwilio am ffordd newydd o’u helpu i fwynhau’r awyr iach?

Ymunwch â BAVO a Chlwb Golff Pîl a Chenig am sesiwn flasu golff AM DDIM sy’n gyfeillgar i bobl sy’n byw gyda dementia, mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar.

📅 Dydd Mercher 15 Gorffennaf | 🕐 1.00pm – 3.00pm

Yn ystod y sesiwn, cewch gyfle i:

  • Ddysgu hobi newydd gyda chymorth hyfforddwyr golff profiadol.
  • Mwynhau sesiwn golff sy’n gyfeillgar i bobl sy’n byw gyda dementia.
  • Cwrdd ag eraill sydd â diddordebau tebyg mewn amgylchedd cefnogol.
  • Cael gwybod am y cyfle i ymuno â chwrs chwe wythnos (dyddiadau a chost i’w cadarnhau).

Sylwer: Rhaid i ofalwr fod yn bresennol gyda’r person y mae’n ei gefnogi.

Dim ond 12 lle sydd ar gael, felly archebwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Cliciwch y botwm isod i gadw eich lle.

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award