A yw cloi i lawr wedi eich gadael yn ddiflas ac yn unig? Beth am godi eich ysbryd trwy wirfoddoli? Mae cyfeillio dros y ffôn yn eich helpu chi a’r person rydych chi’n ei ffonio, oherwydd gall sgwrs wythnosol helpu’r ddau ohonoch i ailgysylltu â’r byd!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr 18 oed a hŷn, i ymuno â’n Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19, sy’n cynnig help a chefnogaeth i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ar yr adeg gythryblus hon, trwy sgyrsiau.
Trwy helpu i leihau ofnau i’r rhai sy’n profi pryder ac ansicrwydd, mae ein prosiect ffôn yn cynnig llais cyfeillgar ar foment o unigedd ac unigrwydd cynyddol.
Gwnewch wahaniaeth i ddiwrnod rhywun … mae awr o’ch diwrnod yn mynd yn bell! Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400 neu e-bostiwch: bavo@bavo.org.uk neu ewch i’n tudalen Cymdeithion Cymunedol yma.