Cyllid ar gyfer darpariaeth wirfoddol ieuenctid: dyddiad cau 20 Awst 2021

Cyhoeddwyd: 9 Awst 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) yn cynnig grantiau i wasanaethau’r trydydd sector i ddarparu darpariaethau mynediad agored (sy’n cydymffurfio â COVID) i bobl ifanc yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd grantiau bach ar gael i ddarpariaethau trydydd sector/gwirfoddol mewn ardaloedd cymunedol ledled Pen-y-bont ar Ogwr, lle nad oes fawr ddim gwasanaethau mynediad agored cyffredinol ar gael i bobl ifanc ar hyn o bryd.
Mae’n broses gystadleuol a bydd ceisiadau’n cael eu capio ar £3,000.  Fodd bynnag, yn dibynnu ar nifer y ceisiadau llwyddiannus, gall y ffigur a gynigir fod yn is. Bydd pob cais yn cael ei sgorio a’i ystyried gan banel sy’n cynnwys cynrychiolydd comisiynu o’r sector statudol, BAVO a chynrychiolydd o Faterion Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Caiff pob cais ei farnu ar sail y gallu i fodloni’r meini prawf ariannu, sydd i’w gweld yma
Arweiniad

Ffurflen Gais

Os hoffech wneud cais am grant drwy’r broses hon, llenwch y ffurflen gais am gyllid sydd ynghlwm gan ddefnyddio’r nodiadau canllaw i gael cymorth. Ar ôl ei gwblhau, dychwelwch yn electronig i owen.shepherd@bridgend.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau fydd 4pm ar 20 Awst 2021.
 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award