Canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer ailagor canolfannau cymunedol

Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2021

Canllawiau CGGC ar gyfer canolfannau cymunedol yn ailagor yng Nghymru (diweddarwyd 8 Mehefin 2021)

Mae’r canllaw hwn ar gyfer canolfannau cymunedol yng Nghymru i roi trosolwg byr i chi o sut i baratoi ar gyfer ailgychwyn eich gwasanaethau. Ar adeg ysgrifennu’r canllaw diwygiedig hwn mae Cymru yn raddol trosglwyddo trwy lefelau rhybuddio. Gweler y Cynllun Rheoli Coronafirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y gwahanol lefelau rhybuddio.

Gallwch lawrlwytho canllawiau CGGC ar gyfer canolfannau cymunedol sy’n ailagor yng Nghymru yma

Mae CGGC wedi rhyddhau Telerau ac Amodau enghreifftiol i reolwyr canolfannau cymunedol yng Nghymru eu defnyddio wrth logi canolfannau cymunedol.

Gall canolfannau cymunedol agor a bwriad y canllaw diweddaraf hwn yw amlinellu newidiadau i’r rheoliadau a darparu ffyrdd ymarferol i chi agor eich canolfan gymunedol.

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ailagor a defnyddio canolfannau cymunedol amlbwrpas yn ddiogel (wedi’u diweddaru 10 Mai 2021)

Mae’r canllaw hwn ar gyfer y rhai sy’n rheoli canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol eraill, ar ailagor adeiladau amlbwrpas yn ddiogel. Fodd bynnag, bydd hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n llogi neu’n defnyddio canolfan gymunedol. Gallwch chi lawrlwytho’r canllawiau yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award