Atal camwybodaeth rhag lledaenu

Cyhoeddwyd: 5 Gorffennaf 2021

Mae’r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau newyddion a digidol wedi rhoi mynediad rhwydd i ni at wybodaeth a chysylltiad ar unwaith â’r byd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd wedi darparu gofod heb ei reoleiddio lle gall gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol ledaenu’n gyflym ac achosi niwed mawr. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei galw’n Gamwybodaeth.

Gyda bron i hanner y bobl yng Nghymru bellach yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol am eu newyddion, mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod llawer o wybodaeth anghywir ar-lein sy’n esgus bod yn wybodaeth gywir. Felly y tro nesaf y gwelwch chi stori newyddion, delwedd neu femyn ar-lein, cofio i stopiwch, meddyliwch a gwiriwch.

Mae camwybodaeth wedi’i dylunio i gael ei chredu, ac nid yw hi bob amser yn rhwydd gwybod y gwahaniaeth rhwng camwybodaeth a gwybodaeth gywir. Mae amryw o dermau’n cael eu defnyddio i ddisgrifio gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol. Gall y gwahaniaethau fod yn gynnil, ond mae’n bwysig gwybod a deall y diben a’r bwriad y tu ôl i’r wybodaeth rydych chi’n ei gweld ar-lein.

Darganfyddwch fwy a rhestr wirio syml i’ch helpu chi i sylwi ar wybodaeth anghywir yma

 

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award