Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 30 Mehefin 2021:
“Yn dilyn wythnosau o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae’r cyngor dros dro yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref ddechrau ym mis Medi 2021. Lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl, cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd. Mae tystiolaeth gynnar ar weinyddu brechlynnau COVID-19 a’r ffliw a ddefnyddir yn y DU yn cefnogi darparu’r ddau frechlyn ar yr un pryd, gan fabwysiadu dull cydlynus a fydd o gymorth i ddarparu’r brechlynnau ac i sicrhau bod cymaint o unigolion â phosibl yn cael eu brechu. Fodd bynnag, rydym yn nodi nad yw hwn yn gyngor pendant gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar hyn o bryd.
“Mae’r categorïau o bobl a fydd yn cael blaenoriaeth i dderbyn trydydd dos o’r brechlyn yn cael eu dosbarthu yn Gyfnodau 1 a 2, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu grwpiau â blaenoriaeth 1-9 Cam 1 y rhaglen.
“Cyfnod 1. Dylid cynnig trydydd dos o frechlyn atgyfnerthu COVID-19 i’r personau canlynol a’r brechlyn ffliw blynyddol, cyn gynted â phosibl o fis Medi 2021:
“Cyfnod 2. Dylid cynnig trydydd dos o frechlyn atgyfnerthu COVID-19 i’r personau canlynol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl Cyfnod 1, gyda phwyslais cyfartal ar roi brechlyn y ffliw i’r rheini sy’n gymwys: