Ymgynghoriad Cyllideb Senedd Cymru 2022: Dweud eich dweud!

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar flaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae CGGC yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad hynod bwysig hwn. Rydyn ni’n awyddus i glywed gan gynifer o leisiau’r sector gwirfoddol â phosibl er mwyn helpu i ddylanwadu ar y Pwyllgor wrth iddo graffu ar broses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni wedi datblygu’r arolwg hwn. Mae’n gofyn nifer o gwestiynau am y Gyllideb ddrafft. A wnewch chi dreulio amser yn ymateb. Gallwch chi ateb cynifer neu gyn lleied o gwestiynau ag y dymunech chi. Bydd yn cymryd tua 15 munud i lenwi’r arolwg yn ei gyfanrwydd.

Bydd yr arolwg yn cau ar 5ed Tachwedd 2021.

Cysylltwch â Swyddog Polisi CGGC, David Cook, os oes gennych chi gwestiynau drwy e-bostio dcook@wcva.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award