Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog – Llu ar gyfer newid

Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am rownd dau yw hanner dydd ar 2 Awst 2021

Mae cyllid ar gael i brosiectau sy’n grymuso cymunedau’r Lluoedd Arfog i gymryd mwy o ran yn eu hardal leol.

Bydd y rhaglen hon yn dyfarnu grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n lleihau unigedd ac yn hyrwyddo integreiddio; cefnogi adferiad ar ôl Covid mewn cymunedau Lluoedd Arfog lleol y mae unigedd yn effeithio arnynt.

Byddant yn ariannu ystod eang o brosiectau o dan y rhaglen hon. Fodd bynnag, rhaid i chi allu dangos iddynt fod eich prosiect yn cyd-fynd ag un o’r ddwy brif thema hyn:

Grymuso cymunedau’r Lluoedd Arfog i gymryd mwy o ran yn eu hardal leol;
Darparu cyfleoedd i aelodau ynysig o gymuned y Lluoedd Arfog gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella lles cyffredinol.

Dysgwch fwy o wybodaeth a sut i wneud cais yma


Chwilio am gyllid ar gyfer eich prosiect neu sefydliad?…. cliciwch ar ein platfform chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru!

Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.

I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award