Mae Age Cymru yn chwilio am bobl 65+ oed ledled Cymru i gymryd rhan mewn prosiect ffotograffiaeth i ddogfennu bywydau a gweithgareddau amrywiol, angerddol a diddorol pobl hŷn yng Nghymru ac arddangos gwir #ThisIsOlder.
Bydd y ffotograffydd enwog Jon Pountney yn tynnu’r lluniau, cyn cael eu harddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Maent yn croesawu diddordeb gan bobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, unigolion a chyplau LGBTQ+, a phobl hŷn sy’n byw gydag anabledd.
I gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at: ThisIsOlder@equinox.wales