Ydych chi’n adnabod person neu grŵp ifanc sy’n haeddu cael ei gydnabod am eu hymdrechion eithriadol?

Cyhoeddwyd: 5 Gorffennaf 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Hoffai panel Gwobrau’r Uchel Siryf wobrwyo pobl ifanc ym Morgannwg Ganol sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol naill ai gartref neu yn y gymuned yn ystod 2021.

Mae pobl ifanc yn arbennig wedi dangos dewrder a gwydnwch mawr yn ystod pandemig y Coronafeirws a byddai’n wych pe gellid eu cydnabod am eu cyflawniadau rhagorol.

Fe wnaeth y Pandemig atal eu noson wobrwyo yn 2021 ond eu nod yw cynnal digwyddiad yn 2022 a gwobrwyo pobl ifanc haeddiannol gyda miloedd o bunnoedd mewn gwobrau ariannol am eu hamser a’u hymdrech, gan gymryd rhan mewn mentrau sy’n sefyll allan ymhlith eu cyfoedion. Efallai eu bod wedi helpu eu cymdogaeth leol, unigolyn neu sefydliad lleol neu hyd yn oed wedi cyflawni cyflawniad chwaraeon neu academaidd.

Felly, os ydych chi neu unrhyw un yn eich sefydliad/gweithle yn gwybod am berson neu grŵp rhwng 11 a 21 oed y gellid ei enwebu am wobr a gwobr ariannol o hyd at £1000, y cyfan y maent yn ei ofyn yw i enwebydd dros 18 oed lenwi’r ffurflen gais a fydd ar gael ddechrau mis Medi.

E-bostiwch: highsheriffmidglamorganawards@gmail.com os oes angen ffurflen arnoch, bydd yr Uchel Siryf yn anfon e-bost at bawb eto ym mis Medi gyda manylion am sut i gyflwyno enwebiadau.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award