Mae BAVO yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i leddfu’r pwysau dros fisoedd y gaeaf yn ein hardal leol. Bydd Cronfa Grant Pwysau’r Gaeaf yn anelu at ariannu gweithgarwch lleol yn uniongyrchol a all helpu i greu capasiti/gweithgarwch ychwanegol, neu ymestyn gweithgarwch sy’n bodoli eisoes lle mae arian arall yn dod i ben.
Bydd y grantiau hyn yn helpu yn y gymuned leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a gallant fod rhwng £500 a £5,000. Gallwn ystyried ceisiadau y tu allan i’r ystod hon, ond cysylltwch â ni yn gyntaf i drafod. Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio’n bennaf ar gyllid refeniw; fodd bynnag, gall eich cais am gyllid gynnwys costau ar gyfer prynu offer ‘cyfalaf’ llai gan gynnwys defnyddiau traul (er enghraifft PPE). Nid yw Cronfa Pwysau’r Gaeaf yn rhagnodol, mae’r gronfa’n ymateb i anghenion darparwyr gwasanaethau’r sector gwirfoddol.
1)Byddwch yn llenwi’r ffurflen gais fer sy’n amlinellu diben eich cais am gyllid, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â nod y grant.
2)Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan Asesydd ac os oes unrhyw ymholiadau, cysylltir â chi.
3)Cymeradwyaeth y panel ar sail dreigl i osgoi oedi.
4)Hysbysiad o gyllid drwy Lythyr Cynnig Grant a thaliad drwy BACs.
Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ar y 10fed o Ionawr 2022, am 4pm. Dilynwch y ddolen ar gyfer y ffurflen gais.