Taliad Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Wedi dyblu i £200

Cyhoeddwyd: 4 Chwefror 2022
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Bydd aelwydydd cymwys sy’n wynebu biliau ynni cynyddol yn cael taliad rhyddhad ychwanegol o £100 fel rhan o Gronfa Cymorth Cartrefi Llywodraeth Cymru sy’n darparu £51m o gymorth wedi’i dargedu i deuluoedd a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Cafodd y cynllun ei lansio’n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2021, ac roedd y cynllun yn rhoi taliad untro o £100 i aelwydydd sy’n cael trafferthion i helpu gyda biliau gwresogi’r Gaeaf. Mae’r ffigur hwn bellach wedi’i ddyblu i £200 oherwydd y cynnydd parhaus mewn costau mewn ynni.

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i beidio â cholli allan ar y cynnydd mewn cyllid ac i gysylltu ag awdurdodau lleol a fydd yn prosesu ceisiadau newydd gan aelwydydd cymwys.

Mae cynghorau wedi cysylltu â phobl y credant eu bod yn gymwys a gellir gwneud ceisiadau ar-lein hefyd drwy gyfleuster ‘Fy Nghyfrif’ y cyngor tan y dyddiad cau, sef 28 Chwefror. Nid oes angen i bobl sydd eisoes wedi derbyn taliad o £100 o dan y cynllun wneud unrhyw beth gan y byddant yn cael y taliad pellach o £100 yn yr wythnosau nesaf.

Mae miloedd o drigolion lleol cymwys eisoes wedi manteisio ar y cynnig ariannu gwreiddiol ac maent yn cael cymorth i helpu i gadw eu cartrefi’n gynnes y Gaeaf hwn.

Gobeithiwn y bydd y cynnydd pellach hwn yn mynd rhywfaint o ffordd ychwanegol i leddfu’r pwysau ariannol ar unrhyw aelwydydd a allai fod yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.

– Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams

Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae rhywun yn hawlio budd-dal cyffredinol, cymhorthdal incwm, credydau treth gwaith, budd-daliadau lles sy’n seiliedig ar brawf modd, lwfans ceisio gwaith sy’n gysylltiedig ag incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefannau awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r taliad uwch.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award