Sut y gall ein llywwyr cymunedol eich helpu chi’n bersonol

Cyhoeddwyd: 2 Mehefin 2023
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Watch our 5 minute film here.  (Saesneg yn unig, sorri)

Mae’r Gwasanaeth Llywio Cymunedol yn gweithredu’n ddaearyddol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg (BPR) a’i ariannu drwy Gyllid Llyworaeth Cymru.

O ganlyniad i fod wedi’i leoli yma yn BAVO, Cyngor Gwirfoddol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CGS), gallwn ddarparu gwasanaeth annibynnol i unigolion sydd angen help, neu chwilio am weithgareddau i gymryd rhan ynddynt.

Rydym yn cynnal sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ gyda’r unigolyn ac yn eu cyfeirio at grŵp neu wasanaeth cymunedol sy’n diwallu eu hanghenion a’u diddordeb orau.

Gan eu bod wedi’u lleoli mewn adeiladau cymunedol, mae ein Llywwyr nid yn unig yn gallu cysylltu â dros 450 o sefydliadau sy’n aelodau ar ein cronfa ddata, ond gallant fanteisio ar ddarpariaeth gymunedol leol ad hoc pan fydd yn ymddangos mewn gwahanol ganolfannau ac adeiladau cymunedol. Mae ganddynt wybodaeth gyfoes am yr hyn sydd ar gael trwy gadw eu bys ar y pwls.

Fel rhan o’n model ‘Cymunedau Dyfeisgar a Chysylltiedig’, rydym hefyd yn gallu cydweithio ag amrywiaeth o asiantaethau ar ddarnau penodol o waith megis cefnogi banciau bwyd a dosbarthu talebau bwyd a thanwydd. Yn ddiweddar cawsom grant gan y Grid Cenedlaethol a gallwn ddosbarthu pecynnau cynnes ochr yn ochr â chefnogi hybiau cynnes.

Yn bwysig, pan fydd pobl yn dod i BAVO, nid ydynt yn cael eu pasio o bant i bentan. Mae nhw’n cael yr ymyrraeth sydd ei hangen arnyn nhw yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn. Bydd ein llywwyr hyd yn oed yn mynd â nhw i weithgareddau ychydig o weithiau fel nad ydyn nhw mor bryderus, a gellir eu cyflwyno i bobl i dorri’r rhew.

Mae ein Llywwyr wedi’u hyfforddi i ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’ drwy ein partneriaid yn y GIG, ac mae nifer o’n Llywiwyr wedi ymgymryd â modiwl lefel gradd Rhagnodi Cymdeithasol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae gan bob Llwyiwr arbenigedd hefyd, megis rhagnodi gwyrdd, tai, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, gweithgarwch corfforol a chefndiroedd gofalwyr er enghraifft.

Mae’r tîm Llywio Cymunedol yn ffurfio elfen ‘cefnogi pobl’ ein ‘rhaglen drawsnewid’ mewn partneriaeth â CBSP.

Yr elfen hanfodol arall i’r rhaglen hon yw darparu cymorth i grwpiau cymunedol.  Rydym yn cynnig cymorth gwirfoddoli, llywodraethu a datblygu cadarn yn ogystal â llwybrau ariannu cynaliadwy i sefydliadau cymunedol fel y gallwn gyfeirio’n hyderus ac yn ddiogel atynt a sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i dderbyn atgyfeiriadau.

Rydym hefyd yn darparu broceriaeth trwy ‘Bwynt Mynediad Cyffredin’ y Gwasanaethau Cymdeithasol ac wedi rheoli Navigators o’r blaen ar ran Clwstwr Meddygon Teulu.  Os hoffech chi siarad am ein gwasanaeth a sut y gallai ehangu i gefnogi’ch sylfaen cleientiaid, rhowch gylch i ni.

Mae’r gwasanaeth ar agor rhwng 9am a 5pm

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gail E; communitynavigator@bavo.org.uk neu ffoniwch 01656 810400

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award