Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio i ddatblygu cynllun cyflawni i gefnogi cam nesaf gweithredu Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhwng 2023 a 2026.
Maent bellach yn dechrau ar gyfnod ymgynghori’r ddogfen ddrafft ac yn edrych i gasglu barn o bob rhan o’r sector gan gynnwys gwirfoddolwyr, y rhai sy’n cael mynediad at ofal a chymorth, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran sut y gallwch ymateb gan gynnwys ffurflenni Microsoft, trwy ddogfen gair neu drwy gyflwyno e-bost gyda’ch sylwadau neu recordiad fideo neu sain yn amlinellu eich ymatebion.
Bydd y dogfennau ymgynghori yn fyw tan hanner nos ddydd Sul 25 Mehefin 2023.
https://gofalcymdeithasol.cymru/ymgynghoriadau/ymgynghoriad-strategaeth-gweithlu




