Siop elusennol Theo yn chwilio am wirfoddolwyr

Cyhoeddwyd: 1 Ebrill 2021

Mae Covid-19 wedi rhoi sawl her i siopau elusennol. Pan ganiatawyd i siopau nad ydynt yn hanfodol ailagor yn dilyn y cyfnod cloi cenedlaethol cyntaf, profodd siop elusennol Theo yn Kenfig Hill brinder gwirfoddolwyr wrth i rai benderfynu eu gadael oherwydd oedran, cyflyrau iechyd neu oherwydd eu bod yn cysgodi.

Dywed Margaret o siop elusennol Theo’s: “Diolch i gefnogaeth gan BAVO a gwefan Gwirfoddoli Cymru, roeddem yn gallu recriwtio digon o wirfoddolwyr i ailagor. Mae gwirfoddoli yn achubiaeth am lawer o resymau ar hyn o bryd ac mae wedi dod yn rhan fwy gwerthfawr o fywyd cymunedol. Rydym yn ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr Theo am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. ”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i Theo’s, cysylltwch â Sharon yn BAVO, T: 01656 810400 neu E: Volunteering@bavo.org.uk   neu ewch i Wefan Gwirfoddolwyr Cymru yn Bridgend.volunteering-wales.net

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award