Dydd Iau 8 Gorffennaf rhwng 9.30am a 12pm
Gwarchodfa Natur Parc Slip, Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr
Dewch draw i ymuno â thaith gerdded am y warchodfa gan nodi gwahanol blanhigion goresgynnol a rhannu awgrymiadau ar sut i’w rheoli.
Bydd sesiwn fer hefyd yn tynnu Jac y Neidiwr gyda chyfle i ddarganfod mwy am sut i redeg eich bash balsam eich hun. Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Kerry Rogers a chydweithwyr o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Mae archebu lle yn hanfodol. E-bostiwch: helen.bradley@plantlife.org.uk