Sesiwn ar-lein: Gwirfoddoli mewn cartrefi Gofal – peilot tymor byr a chynlluniau tymor hir

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Dydd Iau 1 Gorffennaf 2021 rhwng 2 – 3 yp

Mae Age Cymru yn datblygu model ymarfer ar gyfer gwirfoddoli mewn cartrefi gofal. Mae peilot tymor byr yn canolbwyntio ar gefnogi cyswllt rhwng preswylwyr a theuluoedd fel y mae cyfyngiadau Covid yn caniatáu.

Bydd yn cynhyrchu arweiniad a gwerthusiad myfyriol i’w ddefnyddio’n ehangach ac i gefnogi datblygiad mentrau tymor hwy, gan gynnwys gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau a sectorau.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys nifer o ddulliau rhyngweithiol i alluogi cyfranogwyr i archwilio a rhannu syniadau am sut olwg fydd ar wirfoddoli effeithiol mewn cartrefi gofal, pwy sy’n elwa a sut y gellir ei gynnal a’i gefnogi. Cofrestrwch yma


Gwirfoddolwr Cymorth i Ymwelwyr Cartrefi Gofal

Mae hon yn rôl newydd gyffrous sydd wedi’i chynllunio i helpu cartrefi gofal i groesawu ymwelwyr yn unol â rheolau Covid-19. Ar ôl blwyddyn lle mae ymweld â chartrefi gofal wedi cael ei gyfyngu’n sylweddol oherwydd rheoliadau Covid-19, rydym yn gwybod bod ffrindiau neu deulu yn awyddus i allu dychwelyd i ymweld â’u hanwyliaid. Bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cartrefi gofal gydag ymweld wrth iddynt geisio croesawu ymwelwyr. Darganfyddwch fwy yma

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award