Byddai rôl gwirfoddolwr y warws o fudd i unrhyw un a hoffai aros mewn siâp, helpu i achub y blaned ac ennill rhywfaint o brofiad warws ar gyfer eu CV.
Mae’r rôl hon yn weithredol yn gorfforol gan ei bod yn cynnwys cario dodrefn â llaw, ond yn aml mae gennym wirfoddolwyr yn helpu gydag eitemau ysgafnach yn y warws. Nid symud dodrefn o gwmpas yn unig mohono – mae cyfleoedd eraill i helpu, megis archebu stoc i mewn a phrisio trwy ddefnyddio tabledi, adeiladu dodrefn pecyn fflat, a phrofi eitemau trydanol a roddir – gallwch roi cynnig ar wahanol rolau.
Darperir hyfforddiant llawn a gellir ad-dalu costau teithio rhesymol mewn cytundeb â’r Rheolwyr.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Sharon yn BAVO, T: 01656 810400 neu e-bostiwch: Volunteering@bavo.org.uk




