Rhaglen Lywodraethu – Y Diweddaraf

Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2021

Mae Rhaglen Lywodraethu ddiweddaraf Llywodraeth Cymru wedi’i chyhoeddi heddiw. Mae hyn yn diwygio’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol. Bydd egwyddorion cynhwysiant, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol bob amser wrth wraidd ein gwaith, gan gydnabod a dathlu amrywiaeth safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru. Wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau digynsail presennol, gan gynnwys yr ymateb parhaus i’r pandemig, rydym yn parhau’n ymrwymedig i wneud hynny mewn cydweithrediad â chi ac yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol.

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u cynnal, ac mae ein camau gweithredu i gyflawni’r amcanion hyn wedi’u cryfhau mewn nifer o feysydd gan y Cytundeb Cydweithredu.

Edrychwn ymlaen at gydweithio i sicrhau bod ein harbenigedd a’n gallu ar y cyd yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award