Profion cymunedol i gadw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Nid yw un o bob tri o bobl sydd â Covid-19 yn gwybod bod ganddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd profion coronafirws cymunedol yn cael eu cynnal mewn sawl rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth, a fydd yn targedu pobl nad ydyn nhw’n arddangos symptomau Covid-19.

Bydd y profion yn cymryd pedair wythnos i’w cwblhau a bydd yn canolbwyntio ar feysydd penodol sydd wedi’u dewis gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Bydd yn digwydd yn benodol o fewn Caerau, Nantyffyllon, Pyle, Kenfig Hill, Cornelly, Cefn Cribwr, Sarn, Aberkenfig, Coytrahen, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre a Heol-Y-Cyw.

Bydd canolfannau profi yn cael eu sefydlu i gefnogi’r ardaloedd hyn, a gofynnir i’r holl breswylwyr yn y cymunedau hyn sy’n 11 oed neu’n hŷn ac nad ydynt yn arddangos symptomau coronafirws gymryd rhan.

Gallwch ddarganfod mwy yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award