Rydym yn hapus i rannu bod rownd nesaf Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru wedi’i chymeradwyo a bydd yn agored i geisiadau ddydd Llun 28 Chwefror 2022. Rwyf wedi atodi’r canllawiau i ymgeiswyr a’r canllawiau proffil prosiect.
Fel y gwelwch, rydym nawr yn gallu cynnig hyd at 2 flynedd o gyllid gydag uchafswm o £25,000 y flwyddyn. Bydd pob prosiect dros 1 flwyddyn yn cael ei adolygu ar ddiwedd blwyddyn 1 gan y tîm Cymorth Grant a Phanel Gwirfoddoli Cymru. Yn seiliedig ar yr adolygiad hwn ac argaeledd cyllid, bydd yn penderfynu a fydd y prosiect yn parhau i mewn i flwyddyn 2. Bydd £850k y flwyddyn i’w ddyfarnu ar gyfer y prif grantiau hyn.
Nid yw nodau’r cynllun wedi newid:
I gael mynediad i’r canllawiau, gweler y dogfennau isod.