Cysylltu rhaglen weithdai chwe wythnos ar-lein i bobl ifanc

Ydych chi’n 15-25 oed? Ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu Gastell-nedd Port Talbot?

Hoffech chi helpu eich cymuned leol, cwrdd â phobl newydd, gwneud rhywbeth gwahanol a dysgu sgiliau newydd?

Gall prosiect Cysylltu yn BAVO eich helpu i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i helpu i redeg elusen.

Mae dros 360 o elusennau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a nifer tebyg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Maent i gyd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Hoffai llawer ohonynt gael pobl ifanc i gymryd rhan yn eu gwaith.

Gall bod yn aelod o’r tîm sy’n rhedeg elusen eich helpu i gael sgiliau newydd i gwrdd â phobl newydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch cymuned.


Yn ystod mis Medi/Hydref rydym yn cynnal rhaglen weithdai ar-lein (chwe sesiwn, cyfanswm o wyth awr i gyd). Bydd y rhaglen ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Ni chodir tâl am y rhaglen, ond gofynnir i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu pob un o’r chwe sesiwn.

Bydd pobl ifanc sy’n ymgymryd â’r rhaglen yn dysgu am yr hyn sy’n gysylltiedig â rhedeg sefydliad effeithiol, a byddant yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymddiriedolwr/cyfarwyddwr. Byddant yn cael cyfleoedd i ymarfer eu dysgu’n ddiogel, dod o hyd i rolau y gallant wneud cais amdanynt a gobeithio mwynhau’r sesiynau gweithdy hefyd!

All sessions start at 5 pm

2021 English Language programme dates :

Mon 27 September
Weds 29 September
Mon 4 October
Weds 6 October
Mon 11 October
Weds 13 October

Welsh Language programme dates:

Tues 21 September
Thurs 23 September
Tues  28 September
Thurs 30 September
Mon  4 October
Thurs 7 October

All sessions start at 5pm

Places are limited –  if you would like to attend, please contact Suzanne at BAVO : suzannechisholm@BAVO.org.uk

 

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award