Hafan » Hysbysiad o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Hysbysiad o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2023
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol BAVO ar Ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2023 yng Ngwesty Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr, rhwng 11yb ac 1yp.
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’n te prynhawn. Yn ymuno â ni mae siaradwyr gwadd arbennig yr Athro Jean White CBE Uchel Siryf Morgannwg Ganol a Jonathan Stock, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu yn y Comisiwn Elusennau.
Mae ein CCB yn agored i unrhyw sefydliad trydydd sector, fodd bynnag, bydd tocynnau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer aelodau yn gyntaf.
Yn y CCB, bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyflwyno ein hadroddiad effaith blynyddol 2022/23 yn amlinellu perfformiad a datganiadau ariannol BAVO. Bydd yr archwilydd annibynnol hefyd yn adrodd. Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda tê prynhawn.
Efallai y gofynnir i aelodau sydd â hawliau pleidleisio bleidleisio ar faterion cyfredol fel penodiadau i Fwrdd y Cyfarwyddwyr lle mae mwy o enwebiadau na lleoedd. Efallai y gofynnir iddynt hefyd bleidleisio ar ailbenodi archwilwyr.