Mis Mawrth ym Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari. Fel rhan o ymgyrch SyM Sylwi ar y Symptomau, rydym yn eich annog chi i ymuno â ni i godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau cynnil canser yr ofari er mwyn helpu i sicrhau y caiff mwy o ferched dignosis ar y cyfle cyntaf posibl.
Mae mwy na 300 o ferched yn cael diagnosis o ganser yr ofari pob blwyddyn yng Nghymru. Po gynharaf y ceir diagnosis o ganser yr ofari, hawsaf yw e i’w drin. Fodd bynnag, oherwydd bod arwyddion cynnar canser yr ofari yn debyg i gyflyrau fel syndrom coluddyn llidus (IBS) a syndrom cyn mislif (PMS), yn aml ni cheir diagnosis hyd nes bod y canser wedi lledu ac nad yw gwellhad yn bosibl.
Mae pedwar prif symptom o ganser yr ofari:
Yn ôl ymchwil gan Target Ovarian Cancer eleni, dim ond 27% o ferched yng Nghymru all enwi bola wedi chwyddo fel un o symptomau canser yr ofari, 33% poen yn yr abdomen, 3% teimlo’n llawn a dim ond 2% brys wrinol.