Mae #gofod3 2021 yn mynd arlein!

Gofod ‘Cymru’ ar gyfer y trydydd sector
Ar-lein o 28 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021

Ydych chi wedi clywed y newyddion? gofod3 – y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru – yn ôl. Yn digwydd ar-lein rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf, mae’r gofod3 hwn yn paratoi i fod y gorau eto.

Gyda dros 60 o ddigwyddiadau am ddim i ddewis ohonynt, gan gynnwys dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, mae rhywbeth at ddant pawb – o ymddiriedolwyr a staff i wirfoddolwyr.

Rydyn ni i gyd wedi cael trafferth eleni – rhai yn fwy nag eraill – ac mae WCVA eisiau cynnig lle i chi bwyso a mesur, dysgu am y pethau sy’n bwysig i chi, a chynnig cyfle i chi ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd i helpu i lywio ein tirwedd weithredol newydd.

Marciwch eich dyddiaduron nawr! Bydd cofrestriadau yn agor ddechrau’r mis nesaf.

Wrth i ni ddathlu Wythnos Genedlaethol Dysgu yn y Gwaith, dyma gipolwg ar rai o’r sesiynau a all helpu i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad tîm:

  • Gweithdai gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar bynciau fel datblygiad proffesiynol;
  • Dosbarthiadau meistr ar ddenu cyllid a gweithio gyda thosturi;
  • Seminarau ar weithio o bell a thrafod eich prydles mewn byd Covid;
  • Trafodaethau ar wirfoddoli a lles, a chyfleu effaith.

Mae gofod3 yn unigryw i Gymru, ac yn taflu sylw at y gwaith gwerthfawr a wnawn yn y sector gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi dangos pwysigrwydd y sector gwirfoddol – ni fu erioed angen mwy nag yn awr, a gofod3 yw ein lle i adlewyrchu a rhoi hwb i’n cynlluniau tuag at adeiladu’n ôl yn well yng Nghymru.

Darganfyddwch fanylion pellach trwy ymweld â www.gofod3.cymru/home/

Os hoffech chi gynnal digwyddiad eleni, e-bostiwch: helo@gofod3.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award