Mae cael yr ail frechlyn yn ‘hollbwysig’

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa pobl am bwysigrwydd sicrhau eu bod yn cael y ddau frechlyn ac yn cael eu brechu’n llawn rhag y coronafeirws Covid-19.

“Daw hyn wedi ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr sydd wedi datgelu bod dau brif frechlyn y DU, yr AstraZeneca a’r Pfizer, yn 33 y cant yn effeithiol yn erbyn coronafeirws ar ôl un dos, a 80 y cant yn effeithiol ar ôl yr ail ddos.

“Rydym ni wedi bod yn annog trigolion yn barhaus i beidio ag ymlacio’n ormodol mewn perthynas â choronafeirws, ac mae’n bwysicach nag erioed i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau. Nid oes unrhyw frechlyn 100 y cant yn effeithiol, ac mae’n dal yn bosibl cario’r feirws heb ddangos unrhyw symptomau ohono. Hyd yn oed os ydym wedi cael y brechiad, rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o feddwl ein bod yn ddiogel rhywsut, a rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus…” Darllenwch fwy yma

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award